Neidio i'r cynnwys

Guillaume Faye

Oddi ar Wicipedia
Guillaume Faye
FfugenwGuillaume Corvus, Pierre Barbès, Skyman, Gérald Foucher, Willy Eyaf Edit this on Wikidata
GanwydGuillaume Louis Marie Faye Edit this on Wikidata
7 Tachwedd 1949 Edit this on Wikidata
Angoulême Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 2019 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
16ain bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, damcaniaethwr gwleidyddol, gweithredydd gwleidyddol, newyddiadurwr, darlithydd, awdur ffeithiol, awdur ysgrifau, academydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Franche-Comté Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ116052044 Edit this on Wikidata
MudiadNouvelle Droite Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gfaye.com/ Edit this on Wikidata

Llenor a damcaniaethwr gwleidyddol o Ffrainc oedd Guillaume Faye (7 Tachwedd 19496 Mawrth 2019) a oedd yn un o ddeallusion blaenaf cenedlaetholdeb yr adain dde eithafol yn Ewrop.

Ganwyd yn Angoulême yn département Charente, yng ngorllewin canolbarth Ffrainc. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn gwyddor gwleidyddiaeth o'r Sefydliadau Astudiaethau Gwleidyddol ym Mharis. Ymunodd â Groupement de recherche et d'études pour la civilisation européenne (GRECE) yn 1970. Daeth yn aelod blaenllaw o garfan neo-baganaidd y Nouvelle Droite (y Dde Newydd) yn y 1970au.

Yn y 1980au arddelai Faye, a sawl cenedlaetholwr adain-dde arall, safbwyntiau gwrth-Americanaidd, gan wrthwynebu'r hilgymysgedd a chosmopolitaniaeth a ddygwyd gan globaleiddio a'r drefn neo-ryddfrydol. Yn ôl Faye, roedd mewnfudo i Ewrop yn tanseilio hunaniaeth a diwylliant y mewnfudwyr yn ogystal â'r Ewropeaid cynhenid. Dadleuodd y dylsai gwledydd Ewrop ymgynghreirio â Gweriniaeth Islamaidd Iran, dan yr Aiatola Ruhollah Khomeini, er hybu daearwleidyddiaeth genedlaetholgar.[1]

Roedd Faye yn gyfeillgar â sawl elfen radicalaidd ac eithafol yng ngwleidyddiaeth Ewrop, gan gynnwys carfanau chwyldroadol, neo-Natsïaid, a chenedlaetholwyr Llydewig ffasgaidd. Cafodd ei ddiarddel o GRECE yn 1987 oherwydd ei gysylltiadau â'r bobl hyn. Treuliodd Faye rhyw deng mlynedd y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, ac yn y cyfnod hwn mi oedd yn ddigrifwr ac yn gastiwr ar orsaf radio Skyrock. Bu hefyd yn actio mewn ffilmiau pornograffig.[2]

O 1998 ymlaen, ysgrifennodd Faye sawl llyfr ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol. Yn ei waith, mae'n rhagweld cwymp y gwareiddiad Ewropeaidd o ganlyniad i fewnfudo ar raddfa eang a rhyfel rhwng y Gorllewin ac Islam. Trodd ei gefn ar y Nouvelle Droite a'i wrthwynebiad i Gristnogaeth, a dangosodd safbwynt mwy elyniaethus tuag at fewnfudwyr unigol, gan weld bygythiad jihad, glanhau ethnig, a thrais yn erbyn merched gan ddynion Mwslimaidd ifainc yn Ewrop. Nid oedd Faye yn aelod arferol o'r adain dde eithafol. Er enghraifft, dadleuai o blaid rhyddid y rhywioldeb, gan ei alw'n rhinwedd Prometheaidd,[1] ac nid oedd yn gwadu'r Holocost nac ychwaith yn gwrthwynebu bod Gwladwriaeth Israel. Cofleidiwyd ei syniadaeth gan amrywiaeth o garfanau'r adain dde, gan gynnwys yr alt-right, Israeliaid tra-Seionaidd, y mudiad gwrth-jihad, yr hunaniaethwyr, cenedlaetholwyr ethnig Ewropeaidd, a chenedlaetholwyr croenwyn. Cyhoeddir cyfieithiadau Saesneg o lyfrau Faye gan y cwmni dde-eithafol Arktos.

Bu farw o ganser yn 69 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Ffrangeg) Nicolas Lebourg, "Guillaume Faye, théoricien phare de l’extrême droite, ex animateur sur Skyrock et acteur porno", Slate (8 Mawrth 2019). Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.
  2. (Ffrangeg) "Qui était donc Skyman sur Skyrock? Archifwyd 2019-03-11 yn y Peiriant Wayback", Blog90 (15 Hydref 2008). Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.